Monday 18 June 2012

Cwestiynau Defnyddiol y gall yr Hwylusydd eu holi

English                 Cymraeg 

Cwestiynau Defnyddiol y gall yr Hwylusydd eu holi

Drwy ofyn y math yma o gwestiynau, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu syniadau eu hunain yn fwy trylwyr a byddan nhw'n dysgu herio eraill gyda chwestiynau tebyg.

Cwestiynau sy'n ceisio eglurhad
Fedrwch chi esbonio...?
Beth ydych chi'n feddwl drwy ddweud hynny...?
Fedrwch chi roi enghraifft i mi...?
Sut mae hynny'n helpu...?
Oes gan unrhyw un gwestiwn...?

Cwestiynau sy'n archwilio rhesymau a thystiolaeth
Pam ydych chi'n meddwl hynny...?
Sut ydyn ni'n gwybod fod...?
Beth yw eich rhesymau....?
Oes gennych chi dystiolaeth...?
Fedrwch chi roi enghraifft i mi / enghraifft i'r gwrthwyneb...?

Cwestiynau sy'n archwiliau safbwyntiau gwahanol
Fedrwch chi fynegi hynny mewn ffordd arall...?
Oes yna safbwynt arall...?
Beth pe bai rhywun yn awgrymu bod...?
Beth fyddai rhywun sy'n anghytuno â chi'n ddweud...?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y safbwyntiau/y syniadau hynny...?

Cwestiynau sy'n profi goblygiadau a chanlyniadau
Beth sy'n dilyn (neu allwn ni ei gasglu) o'r hyn rydych chi'n ei ddweud...?
Ydy hynny'n cytuno â'r hyn a ddwedwyd yn gynharach...?
Beth fyddai canlyniad hynny...?
Oes yna reol cyffredinol am hynny...?
Sut allech chi brofi i weld a yw hynny'n wir...?

Cwestiynau am y cwestiwn/ y drafodaeth
Oes gennych chi gwestiwn am hynny...?
Pa fath o gwestiwn ydy e...?
Sut mae beth gafodd ei ddweud / y cwestiwn yn ein helpu ...?
Ble rydyn ni wedi cyrraedd/ pwy all grynhoi hyd yn hyn...?
Ydyn ni'n nes at ateb y cwestiwn/ y broblem...?

Tuesday 1 May 2012

e-Fwletin Athroniaeth i Blant

e-Fwletin Athroniaeth i Blant
Yn cael ei e-bostio am ddim yn wythnosol
Y Bwletin Athroniaeth i Blant Wythnosol
Yn syml, e-bostiwch y gair ‘bwletin’
i
markcharman@wcia.org.uk

----------------------------------------------------------------------------------
Y bwletin sgiliau meddwl wythnosol, yn ystod y tymor i addysgwyr
----------------------------------------------------------------------------------

Llwybrau Athroniaeth i Blant

Llwybrau Athroniaeth i Blant
Ffeil ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim yma

Llwybrau P4C
Fersiwn 2.0

Y Ffeil PDF Ryngweithiol 50 tudalen
----------------------------------------------------------------------------------
Yr Adnodd rhad ac am ddim i ddechreuwyr ac ymarferwyr profiadol mewn Athroniaeth i Blant
----------------------------------------------------------------------------------
“Rwy’n meddwl ei fod yn hollol wych – mae cymaint ynddo – cefndir, dull, adnoddau, gwerthusiad – popeth y byddai angen i athro neu athrawes gyfeirio ato!”
 - Athro, Pen-y-bont ar Ogwr